61.—(1) Mae grant myfyriwr anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ag anabledd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae “anabledd” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 61 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
62.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—
(a)os oes gan y myfyriwr anabledd, a
(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).
(2) Yr eithriadau yw—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)bwrsari gofal iechyd, neu
(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 62 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
63.—(1) Swm y grant myfyriwr anabl y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—
(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond
(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir ym mharagraff (2).
(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—
Achos 1
Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol.
Terfyn o £21,181 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs llawnamser.
Terfyn o £15,885 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser.
Achos 2
Gwariant sy’n ofynnol ar eitemau mawr o offer arbenigol.
Terfyn o £5,332 llai y symiau a dalwyd fel grant myfyriwr anabl i’r myfyriwr at yr un diben mewn unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol o’r cwrs.
Achos 3
Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad, a
(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.
Achos 4
Unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant at ddiben a bennir yn Achos 1 neu 2 pan fo’r terfyn sy’n gymwys i’r Achos hwnnw wedi ei gyrraedd mewn cysylltiad â’r grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Terfyn o £1,785 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs llawnamser.
Terfyn o £1,338 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 63 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)