RHAN 9GRANT MYFYRIWR ANABL

Grant myfyriwr anablI161

1

Mae grant myfyriwr anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ag anabledd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae “anabledd” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 61 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anablI262

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

a

os oes gan y myfyriwr anabledd, a

b

os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).

2

Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

a

bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

b

bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

a

bwrsari gofal iechyd, neu

b

lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

a

na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

b

na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

Swm y grant myfyriwr anablI363

1

Swm y grant myfyriwr anabl y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—

a

y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond

b

nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir ym mharagraff (2).

F22

Yr Achosion a’r terfynau yw—

Achos 1

Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).

Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.

Achos 2

Gwariant ychwanegol yr eir iddo—

a

o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a

b

o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.