RHAN 9GRANT MYFYRIWR ANABL

Grant myfyriwr anabl61

1

Mae grant myfyriwr anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ag anabledd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae “anabledd” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl62

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

a

os oes gan y myfyriwr anabledd, a

b

os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).

2

Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

a

bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

b

bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

a

bwrsari gofal iechyd, neu

b

lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—

a

bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

b

na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

c

na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

Swm y grant myfyriwr anabl63

1

Swm y grant myfyriwr anabl y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—

a

y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond

b

nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir ym mharagraff (2).

2

Yr Achosion a’r terfynau yw—

Achos 1

Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol.

Terfyn o £21,181 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs llawnamser.

Terfyn o £15,885 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser.

Achos 2

Gwariant sy’n ofynnol ar eitemau mawr o offer arbenigol.

Terfyn o £5,332 llai y symiau a dalwyd fel grant myfyriwr anabl i’r myfyriwr at yr un diben mewn unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol o’r cwrs.

Achos 3

Gwariant ychwanegol yr eir iddo—

a

o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad, a

b

o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.

Achos 4

Unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant at ddiben a bennir yn Achos 1 neu 2 pan fo’r terfyn sy’n gymwys i’r Achos hwnnw wedi ei gyrraedd mewn cysylltiad â’r grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Terfyn o £1,785 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs llawnamser.

Terfyn o £1,338 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser.