61.—(1) Mae grant myfyriwr anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ag anabledd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae “anabledd” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 61 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
62.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—
(a)os oes gan y myfyriwr anabledd, a
(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).
(2) Yr eithriadau yw—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)bwrsari gofal iechyd, neu
(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.
Eithriad 5
[F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 62 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 62 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
63.—(1) Swm y grant myfyriwr anabl y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—
(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond
(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir ym mharagraff (2).
[F2(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—
Achos 1
Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).
Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.
Achos 2
Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 63(2) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 63 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)