RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 1Myfyrwyr cymwys

Myfyrwyr cymwys sy’n parhau ar gwrsI111

1

Mae paragraff (2) yn gymwys i berson (“P”) —

a

os yw amgylchiadau P yn dod o fewn un o’r achosion ym mharagraff (3), a

b

os nad yw Eithriad 3 yn rheoliad 10 yn gymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn y mae P yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer.

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae P yn fyfyriwr cymwys ac yn unol â hynny—

a

nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyriwr a nodir yn Atodlen 2, a

b

nid yw unrhyw un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 (ac eithrio Eithriad 3) yn rhwystro P rhag bod yn fyfyriwr cymwys.

3

Yr achosion yw—

Achos 1

a

roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o gwrs presennol P, ac

b

roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw.

Achos 2

a

mae cwrs presennol P yn gwrs penben,

b

roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs (y “cwrs cynharach”) y mae cwrs presennol P yn gwrs penben mewn perthynas ag ef,

c

dim ond oherwydd bod P wedi cwblhau’r cwrs cynharach hwnnw y daeth cyfnod cymhwystra P ar gyfer y cwrs i ben, a

d

roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.

Achos 3

a

roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs presennol,

b

mae statws P fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs presennol (gweler adran 5), ac

c

roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.