xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2LL+CCYMHWYSTRA

ADRAN 2LL+CCyfnod cymhwystra

Cyfnod cymhwystra – y rheol gyffredinolLL+C

12.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â rheoliad 19, 20, 22 neu 23.

(2Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

(3Ond—

(a)os yw’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser neu’n gwrs rhyngosod, a

(b)os yw rheoliad 14, 15 neu 16 yn gymwys i’r myfyriwr,

mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ar gyfer y cwrs wedi ei gyfyngu i’r cyfnod cymhwystra hwyaf a bennir yn y rheoliad cymwys ar gyfer y categori o gymorth a bennir yn y rheoliad hwnnw.

(4Pan fo cymhwystra myfyriwr i gael cymorth wedi ei gyfyngu o dan reoliad 14, 15 neu 16 fel bod nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r categori o gymorth a bennir yn y rheoliad o dan sylw ar gael mewn cysylltiad â hwy yn llai na chyfnod arferol y cwrs presennol, mae’r categori o gymorth sydd wedi ei bennu felly ar gael mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd diweddaraf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 12 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)