14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a
(b)nad yw wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth [F1neu] grant at deithioF2... yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Cyfnod arferol y cwrs presennol.
Plws
Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.
Plws
Un flwyddyn.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 14(2) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 3(a)
F2Geiriau yn rhl. 14(2) wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 3(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)