RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 2Cyfnod cymhwystra

Y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau penodedig i fyfyrwyr sydd wedi ymgymryd â chwrs blaenorolI115

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

a

sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a

b

sydd wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu grant at deithio yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—

  • Cyfnod arferol y cwrs presennol.

  • Plws

  • Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.

  • Plws

  • Un flwyddyn.

  • Llai

  • Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs neu’r cyrsiau blaenorol (os yw’r myfyriwr wedi ymgymryd â mwy nag un cwrs blaenorol).

  • Ond nid yw didyniad i’w wneud os yw’r myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu os yw’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.

3

Os na chwblhaodd y myfyriwr cymwys y cwrs blaenorol diweddaraf yn llwyddiannus am resymau personol anorchfygol—

a

mae un flwyddyn ychwanegol i’w hadio at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2), a

b

caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r rhesymau hynny.

4

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.

5

Pan fo’r rheoliad hwn a rheoliad 16 yn gymwys i fyfyriwr cymwys, mae cyfnod cymhwystra hwyaf y myfyriwr i gael—

a

benthyciad at ffioedd dysgu,

b

grant sylfaenol,

c

grant cynhaliaeth, neu

d

grant at deithio

i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 16.

6

Ym mharagraff (2), ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” yw myfyriwr nad yw’n athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na 2 flynedd.