RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL
PENNOD 2CYMHWYSTRA
ADRAN 2Cyfnod cymhwystra
Y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau i fyfyrwyr penodol sy’n parhau â’u hastudiaethau16.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)
myfyriwr cymwys y mae ei gwrs presennol yn gwrs penben llawnamser (cyfeirir at y cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef ym mharagraff (2) fel y “cwrs rhagarweiniol”);
(b)
myfyriwr cymwys—
F1(i)
sydd wedi cwblhau cwrs perthnasol (y “cwrs rhagarweiniol”),
(ii)
y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol; a
(iii)
nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol;
(c)
myfyriwr cymwys—
(i)
sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser F2neu gwrs gradd arferol (y “cwrs rhagarweiniol”),
(ii)
y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd anrhydedd llawnamser na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol, a
(iii)
nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol.
(2)
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, F3neu grant at deithio F4... yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Tair blynedd neu gyfnod arferol y cwrs presennol, pa un bynnag yw’r hwyaf.
Plws
Un flwyddyn neu’r cyfnod arferol llai un flwyddyn o’r cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol os cwblhaodd y myfyriwr fwy nag un cwrs sydd i’w drin yn gwrs rhagarweiniol), pa un bynnag yw’r hwyaf.
Llai
Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs rhagarweiniol (neu’r cyrsiau rhagarweiniol) ac eithrio blynyddoedd sydd wedi eu hailadrodd gan y myfyriwr cymwys am resymau personol anorchfygol.
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
F5(4)
Ym mharagraff (1)(b)(i), ystyr “cwrs perthnasol” yw cwrs llawnamser ar gyfer—
(a)
y Diploma Addysg Uwch,
(b)
y Dystysgrif Addysg Uwch, neu
(c)
Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch naill ai’r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau’r Alban.