Y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau i fyfyrwyr penodol sy’n parhau â’u hastudiaethauLL+C
16.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cymwys y mae ei gwrs presennol yn gwrs penben llawnamser (cyfeirir at y cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef ym mharagraff (2) fel y “cwrs rhagarweiniol”);
(b)myfyriwr cymwys—
[F1(i)sydd wedi cwblhau cwrs perthnasol (y “cwrs rhagarweiniol”),]
(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol; a
(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol;
(c)myfyriwr cymwys—
(i)sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser [F2neu gwrs gradd arferol] (y “cwrs rhagarweiniol”),
(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd anrhydedd llawnamser na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol, a
(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, [F3neu] grant at deithio F4... yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Tair blynedd neu gyfnod arferol y cwrs presennol, pa un bynnag yw’r hwyaf.
Plws
Un flwyddyn neu’r cyfnod arferol llai un flwyddyn o’r cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol os cwblhaodd y myfyriwr fwy nag un cwrs sydd i’w drin yn gwrs rhagarweiniol), pa un bynnag yw’r hwyaf.
Llai
Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs rhagarweiniol (neu’r cyrsiau rhagarweiniol) ac eithrio blynyddoedd sydd wedi eu hailadrodd gan y myfyriwr cymwys am resymau personol anorchfygol.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
[F5(4) Ym mharagraff (1)(b)(i), ystyr “cwrs perthnasol” yw cwrs llawnamser ar gyfer—
(a)y Diploma Addysg Uwch,
(b)y Dystysgrif Addysg Uwch, neu
(c)Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch naill ai’r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau’r Alban.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 16(1)(b)(i) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(a)
F2Geiriau yn rhl. 16(1)(c)(i) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(b)
F3Gair yn rhl. 16(2) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(c)(i)
F4Geiriau yn rhl. 16(2) wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(c)(ii)
F5Rhl. 16(4) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)