RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 2Cyfnod cymhwystra

Y cyfnod cymhwystra hwyaf – dehongliI117

1

At ddibenion rheoliadau 12 a 14 i 16, ystyr “cyfnod arferol” cwrs yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i’w gwblhau.

2

At ddibenion cyfrifo—

a

cyfnod cymhwystra hwyaf myfyriwr o dan reoliad 14(2), 15(2) neu 16(2), neu

b

a yw cyfnod cymhwystra myfyriwr wedi dod i ben,

mae unrhyw flwyddyn rannol yr ymgymerodd y myfyriwr â hi i’w chyfrif fel blwyddyn academaidd gyfan.

3

Yn rheoliadau 14 a 15, ystyr “cwrs blaenorol” yw cwrs—

a

sy’n—

i

cwrs addysg uwch llawnamser, neu

ii

cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon,

y dechreuodd y myfyriwr ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol,

b

sy’n bodloni un o’r amodau a nodir ym mharagraff (4), ac

c

nad yw wedi ei eithrio rhag bod yn gwrs blaenorol yn rhinwedd paragraff (5), (6) neu (7).

4

Yr amodau yw—

Amod 1

Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn sefydliad addysgol cydnabyddedig am rai neu bob un o’r blynyddoedd academaidd pan oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.

Amod 2

Mae’r cwrs yn un—

  1. a

    y talwyd mewn perthynas ag ef ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs i dalu ffioedd, a

  2. b

    y darparwyd y taliad mewn perthynas ag ef gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.

5

Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—

a

os yw’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, a

b

os nad yw’r myfyriwr yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

6

Nid yw cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—

a

os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, a

b

os—

i

trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu

ii

dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg.

7

Nid yw cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg yn gwrs blaenorol—

a

os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg, a

b

os—

i

trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu

ii

dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.