RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 2Cyfnod cymhwystra

Estyn y cyfnod hwyaf pan fo’r myfyriwr yn cael hysbysiad anghywirI118

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys (“P”)—

a

y mae ei gyfnod cymhwystra hwyaf i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 15 neu 16,

b

sydd wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—

i

cwrs blaenorol yr ymgymerodd P ag ef, a

ii

unrhyw gymwysterau sydd gan P, ac

c

sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan cyfnod cymhwystra hwyaf anghywir.

2

Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan P yn sylweddol anghywir.