RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Cymhwyso2

1

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

3

Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs o’r fath—

a

os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 8, 75, 102 neu 114 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”)3 neu baragraff 11 o Atodlen 4 iddynt, neu

b

os yw’r cwrs yn gwrs penben o fewn ystyr Rheoliadau 2017.

4

Am ddarpariaeth ynghylch cymorth a ddarperir i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs—

a

y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, neu

b

sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018,

gweler Rheoliadau 2017 fel y’u diwygir gan Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn.