Cymhwyso
2.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
(3) Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs o’r fath—
(a)os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 8, 75, 102 neu 114 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”)() neu baragraff 11 o Atodlen 4 iddynt, neu
(b)os yw’r cwrs yn gwrs penben o fewn ystyr Rheoliadau 2017.
(4) Am ddarpariaeth ynghylch cymorth a ddarperir i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs—
(a)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, neu
(b)sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018,
gweler Rheoliadau 2017 fel y’u diwygir gan Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn.