RHAN 4LL+CCYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2LL+CCYMHWYSTRA

ADRAN 3LL+CTerfynu cymhwystra

[F1Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i benLL+C

22A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys [F2oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth] (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys F3...,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.]