RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 4Astudio blaenorol

Myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigionI125

1

Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser wedi cael gradd gyntaf o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person graddedig”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl oni bai bod y myfyriwr yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2).

2

Yr Achosion yw—

Achos 1

O ran y radd gyntaf—

a

nid gradd anrhydedd ydoedd; a

b

fe’i dyfarnwyd i’r person graddedig ar ôl iddo gwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad a oedd yn ofynnol ar gyfer y radd gyntaf honno,

ac mae’r person graddedig yn ymgymryd â’r cwrs presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad sy’n ofynnol (pa un a yw’r person graddedig yn parhau i wneud y cwrs yn yr un sefydliad a ddyfarnodd y radd gyntaf iddo ai peidio).

Achos 2

Mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na phedair blynedd ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

Achos 3

Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd a naill ai’n—

a

cwrs sy’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni; neu’n

b

cwrs sydd wedi ei restru yn y System Cyd-godio Pynciau Academaidd yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—

i

peirianneg;

ii

technoleg;

iii

cyfrifiadureg;

iv

pynciau perthynol i feddygaeth;

v

y gwyddorau biolegol;

vi

milfeddygaeth, amaethyddiaeth a phynciau cysylltiedig;

vii

y gwyddorau ffisegol;

viii

y gwyddorau mathemategol.

Achos 4

Mae rheoliad 26 yn gymwys.

3

Yn Achos 3, ystyr “y System Cyd-godio Pynciau Academaidd” yw fersiwn 3 o’r System Cyd-godio Pynciau Academaidd a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch20.