25.—(1) Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser wedi cael gradd gyntaf o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person graddedig”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl oni bai bod y myfyriwr yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2).
(2) Yr Achosion yw—
O ran y radd gyntaf—
(a)nid gradd anrhydedd ydoedd; a
(b)fe’i dyfarnwyd i’r person graddedig ar ôl iddo gwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad a oedd yn ofynnol ar gyfer y radd gyntaf honno,
ac mae’r person graddedig yn ymgymryd â’r cwrs presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad sy’n ofynnol (pa un a yw’r person graddedig yn parhau i wneud y cwrs yn yr un sefydliad a ddyfarnodd y radd gyntaf iddo ai peidio).
Mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na phedair blynedd ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd a naill ai’n—
(a)cwrs sy’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni; neu’n
(b)cwrs sydd wedi ei restru yn y System Cyd-godio Pynciau Academaidd yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—
(i)peirianneg;
(ii)technoleg;
(iii)cyfrifiadureg;
(iv)pynciau perthynol i feddygaeth;
(v)y gwyddorau biolegol;
(vi)milfeddygaeth, amaethyddiaeth a phynciau cysylltiedig;
(vii)y gwyddorau ffisegol;
(viii)y gwyddorau mathemategol.
Mae rheoliad 26 yn gymwys.
(3) Yn Achos 3, ystyr “y System Cyd-godio Pynciau Academaidd” yw fersiwn 3 o’r System Cyd-godio Pynciau Academaidd a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 25 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)