xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 4LL+CCYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2LL+CCYMHWYSTRA

ADRAN 4LL+CAstudio blaenorol

Myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigionLL+C

25.—(1Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser wedi cael gradd gyntaf o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person graddedig”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl oni bai bod y myfyriwr yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2).

(2Yr Achosion yw—

Achos 1

O ran y radd gyntaf—

(a)nid gradd anrhydedd ydoedd; a

(b)fe’i dyfarnwyd i’r person graddedig ar ôl iddo gwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad a oedd yn ofynnol ar gyfer y radd gyntaf honno,

ac mae’r person graddedig yn ymgymryd â’r cwrs presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad sy’n ofynnol (pa un a yw’r person graddedig yn parhau i wneud y cwrs yn yr un sefydliad a ddyfarnodd y radd gyntaf iddo ai peidio).

Achos 2

Mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na phedair blynedd ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

[F1 Achos 3

Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—

(a) yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,

(b) yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A, neu

( c)wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl A1
Colofn 1Colofn 2
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu CyffredinCod a label Pynciau a eithrir
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02)
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03)
Seicoleg (CAH04)
Milfeddygaeth (CAH05)
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06)
Y gwyddorau ffisegol (CAH07)

(100392) Gwyddoniaeth gymhwysol

(100390) Gwyddoniaeth gyffredinol

(100391) Y gwyddorau naturiol

Y gwyddorau mathemategol (CAH09)
Peirianneg a thechnoleg (CAH10)
Cyfrifiadura (CAH11) ]

(c)yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A.

Achos 4

Mae rheoliad 26 yn gymwys.

[F2(3) Yn Achos 3, ystyr “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 25(2) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 45(a)

F2Rhl. 25(3) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 45(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 25 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)