RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 4Astudio blaenorol

Cyfyngiad pellach ar gymorth i fyfyrwyr rhan-amserI127

1

Nid yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl os yw’r myfyriwr—

a

wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau rhan-amser am gyfnod cyfanredol o—

i

8 mlynedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny cyn 1 Medi 2014), neu

ii

16 o flynyddoedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny ar neu ar ôl 1 Medi 2014), a

b

wedi cael cymorth perthnasol mewn cysylltiad ag o leiaf 8 neu, yn ôl y digwydd, 16 o’r blynyddoedd academaidd hynny o’r cwrs rhan-amser neu’r cyrsiau rhan-amser.

2

Ym mharagraff (1)(b), ystyr “cymorth perthnasol” yw—

a

benthyciad, grant mewn cysylltiad â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd—

i

o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu

ii

o dan reoliadau a wneir o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199821;

b

benthyciad a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o dan reoliadau a wneir o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 198022.