3.—(1) Mae’r Rhannau sy’n weddill o’r Rheoliadau hyn wedi eu trefnu fel a ganlyn.
(2) Mae Rhan 3 yn cyflwyno 2 Atodlen—
(a)Atodlen 1, sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch dehongli termau allweddol penodol, a
(b)Atodlen 7, sy’n cynnwys mynegai o’r termau wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn.
(3) Mae 2 Bennod i Ran 4, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch y cysyniadau allweddol sy’n penderfynu cymhwystra i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch penderfynu a yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn ac felly yn gwrs y caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef;
(b)mae 5 Adran i Bennod 2, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig fod yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
(i)mae Adran 1 yn nodi’r meini prawf er mwyn penderfynu a yw myfyriwr yn gymwys i gael cymorth (gweler yn benodol Atodlen 2 sy’n nodi’r categorïau o fyfyriwr cymwys) ac yn cynnwys darpariaeth ynghylch yr eithriadau a all olygu nad yw myfyriwr yn gymwys;
(ii)mae Adran 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod y caiff myfyriwr barhau i fod yn gymwys i gael cymorth ar ei gyfer, gan gynnwys mewn achosion pan fo myfyriwr yn ymgymryd â mwy nag un cwrs;
(iii)mae Adran 3 yn nodi’r rheolau ar gyfer terfynu cymhwystra myfyriwr cymwys yn gynnar, er enghraifft o ganlyniad i gamymddygiad y myfyriwr;
(iv)mae Adran 4 yn nodi’r cyfyngiadau ar gymorth sydd ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn achosion pan fo myfyriwr wedi ymgymryd ag astudio blaenorol, megis gradd flaenorol;
(v)mae Adran 5 yn ymdrin ag achosion pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall, gan gynnwys darpariaeth ynghylch ailasesu’r swm sy’n daladwy i fyfyriwr o dan amgylchiadau o’r fath a darpariaeth sy’n ymdrin ag achosion pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o astudio llawnamser i astudio rhan-amser ac i’r gwrthwyneb.
(4) Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth weinyddol ynghylch—
(a)ceisiadau am gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
(b)gofynion a osodir ar geiswyr a myfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth;
(c)contractau ar gyfer benthyciadau y gwneir cais amdanynt o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau at ffioedd dysgu gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)yr amodau cymhwyso y mae rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu, a
(b)symiau’r benthyciad sydd ar gael i gategorïau amrywiol o fyfyriwr cymwys.
(6) Mae 4 Pennod i Ran 7, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch y prif gymorth grant sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ac astudio, yn benodol—
(a)mae Pennod 1 yn nodi’r amodau cymhwyso y mae rhaid iddynt gael eu bodloni er mwyn i fyfyriwr gymhwyso i gael grant o dan Benodau 2 neu 3;
(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant sylfaenol, gan bennu swm y grant sylfaenol sydd ar gael;
(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant cynhaliaeth, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(i)swm y grant sydd ar gael;
(ii)sut y caiff swm y grant sydd ar gael ei ostwng mewn perthynas ag incwm aelwyd y myfyriwr (gweler Atodlen 3 ar gyfer darpariaeth ynghylch sut i gyfrifo incwm yr aelwyd);
(iii)achosion pan na fo incwm aelwyd myfyriwr yn berthnasol a bod uchafswm y grant ar gael;
(d)mae Pennod 4 yn cynnwys darpariaethau sy’n penderfynu pryd y caniateir i swm grantiau sy’n daladwy o dan y Rhan hon gael ei ystyried yn gymorth arbennig oherwydd i’r myfyriwr fodloni amodau penodol mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael budd-daliadau neu gredydau, gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r swm sydd i’w ystyried felly.
(7) Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau cynhaliaeth gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)uchafswm y benthyciad sydd ar gael;
(b)sut y mae uchafswm y benthyciad sydd ar gael i’w ostwng mewn perthynas â swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys.
(8) Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant myfyriwr anabl sef grant sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys penodol ag anabledd sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig mewn cysylltiad â chostau ychwanegol penodol a nodir yn y Rhan ac yr eir iddynt oherwydd anabledd y myfyriwr.
(9) Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch grantiau at gostau teithio y mae myfyrwyr cymwys penodol yn mynd iddynt.
(10) Mae 5 Pennod i Ran 11, ynghylch grantiau ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys y mae ganddynt ddibynyddion (“grantiau ar gyfer dibynyddion”), yn benodol—
(a)mae Pennod 1 yn nodi’r 3 math o grantiau ar gyfer dibynyddion ac yn cynnwys darpariaeth ynghylch yr amodau cymhwyso a’r termau wedi eu diffinio sy’n gyffredin i bob un o’r grantiau ar gyfer dibynyddion;
(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant oedolion dibynnol gan gynnwys darpariaeth ynghylch y meini prawf cymhwyso ac uchafswm y grant sydd ar gael;
(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth debyg mewn cysylltiad â’r grant dysgu ar gyfer rhieni;
(d)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant gofal plant gan gynnwys darpariaeth ynghylch yr amodau cymhwyso, y mathau o ofal plant y mae cymorth ar gael ar eu cyfer a sut i gyfrifo uchafswm y grant gofal plant sydd ar gael;
(e)mae Pennod 5 yn nodi sut i gyfrifo swm y grantiau ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i fyfyriwr gan gynnwys gostwng y swm sy’n daladwy drwy gyfeirio at incwm (gweler Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm at ddibenion y darpariaethau hyn).
(11) Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion pan gaiff myfyriwr ddod yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
(12) Mae 4 Pennod i Ran 13, ynghylch taliadau, gordaliadau ac adennill gordaliadau, yn benodol—
(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i daliadau gael eu gwneud ar sail penderfyniadau dros dro;
(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu benthyciadau at ffioedd dysgu, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i’r benthyciad gael ei dalu a’r gofynion sydd i’w bodloni cyn y gwneir taliadau;
(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth debyg mewn cysylltiad â thalu benthyciadau cynhaliaeth neu grantiau;
(d)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gordaliadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r hyn sy’n ordaliad a sut y caniateir i ordaliad gael ei adennill.
(13) Mae 2 Bennod i Ran 14, ynghylch cyfyngiadau ar daliadau a symiau a all fod yn daladwy i fyfyriwr cymwys, yn benodol—
(a)mae Pennod 1 yn nodi cyfyngiadau ar dalu benthyciadau cynhaliaeth a grantiau, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(i)ei gwneud yn ofynnol darparu manylion cyfrif banc cyn y gwneir taliadau;
(ii)cyfrifo’r gostyngiad mewn swm sy’n daladwy o ganlyniad i gyfnod o absenoldeb;
(iii)cyfrifo’r gostyngiad mewn swm sy’n daladwy o ganlyniad i gymhwystra’n dod i ben neu’n cael ei derfynu;
(b)mae Pennod 2 yn nodi cyfyngiadau ar dalu benthyciadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n—
(i)cyfyngu ar dalu benthyciad os yw’r myfyriwr yn methu â darparu rhif Yswiriant Gwladol;
(ii)cadw taliad benthyciad yn ôl os yw’r myfyriwr yn methu â darparu gwybodaeth benodol y gofynnir amdani.
(14) Mae Rhan 15 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, sef grant sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig penodol sy’n ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn cysylltiad â chostau byw yr eir iddynt oherwydd anabledd y myfyriwr.
(15) Mae Rhan 16 yn cyflwyno Atodlen 5 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau sydd ar gael ar gyfer ffioedd coleg sy’n daladwy gan fyfyrwyr penodol sy’n ymgymryd â chyrsiau penodol ym Mhrifysgol Rhydychen neu ym Mhrifysgol Caergrawnt (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge).
(16) Mae Rhan 17 yn cyflwyno Atodlen 6 sy’n cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2017.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)