RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 5Trosglwyddo a throsi

Effaith trosglwyddiad –benthyciadau cynhaliaeth a grantiau30.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd.

(2)

Os yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad, rhaid i gyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd gael ei ailasesu yn unol â’r rheoliad hwnnw.

(3)

Os nad yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad—

(a)

caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd, ond

(b)

os na wneir unrhyw ailasesiad, cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi ei asesu fel y swm sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs.

(4)

Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad yn digwydd ar ôl i Weinidogion Cymru asesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth F1neu grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs ond cyn i’r myfyriwr gwblhau’r flwyddyn honno.

(5)

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y myfyriwr cymwys wneud cais mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs newydd am grant neu fenthyciad arall o fath y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yr hen gwrs (oni bai bod y Rheoliadau hyn yn rhoi caniatâd penodol i wneud hynny).

(6)

Pan, yn union cyn y trosglwyddiad—

(a)

oedd y myfyriwr cymwys yn gymwys i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn academaidd yr hen gwrs, a

(b)

nad oedd y myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am yr uchafswm yr oedd ganddo hawlogaeth i’w gael,

nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad (pa un a yw ailasesiad yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 31 ai peidio).

(7)

Pan fo myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi, nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais pellach o’r fath—

(a)

at ddiben nad yw’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano, neu

(b)

am swm ychwanegol mewn cysylltiad â diben y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano.