RHAN 5CEISIADAU, DARPARU GWYBODAETH A CHONTRACTAU BENTHYCIADAU

Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais33

1

Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i gais o dan reoliad 32(1) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n ymwneud â hi.

2

Ond os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir yng Ngholofn 1 o Dabl 1 yn gymwys, rhaid i gais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl 1

Colofn 1

Amgylchiadau sy’n ymwneud â chais am gymorth

Colofn 2

Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais

Mae’r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd yn dilyn digwyddiad a restrir yn rheoliad 80(2) neu 81(3) neu baragraff 4(2) o Atodlen 5.

Heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o naw mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad yn digwydd.

Mae’r cais am fenthyciad at ffioedd dysgu, benthyciad cynhaliaeth neu fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge.

Mae’r cais am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 42 neu fenthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 60 neu’n fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge o dan baragraff 6(2) o Atodlen 5.

Heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi.

Mae’r cais am grant myfyriwr anabl.

Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau achos penodol, ei bod yn briodol estyn y terfyn amser ar gyfer gwneud cais.

Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn yr achos penodol.