RHAN 5CEISIADAU, DARPARU GWYBODAETH A CHONTRACTAU BENTHYCIADAU

Gofyniad ar awdurdod academaidd i hysbysu pan fo myfyriwr yn ymadael â chwrs37

Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys—

a

sydd wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol yn ystod y flwyddyn academaidd, a

b

y mae’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn honno,

rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol fod y myfyriwr wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs.