Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/03/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
40.—(1) Ni chaiff swm benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, neu
(b)uchafswm y benthyciad.
(2) Cyfrifir uchafswm y benthyciad yn unol â Thabl 2 pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn gymwys iddo (gweler paragraff (3));
(c)Colofn 3 yn pennu’r math o ddarparwr cwrs, pan—
(i)ystyr “darparwr arferol” yw darparwr sy’n dod o fewn Amod 4 o reoliad 6(1);
(ii)ystyr “sefydliad preifat” yw sefydliad, nad yw’n sefydliad addysgol cydnabyddedig, sy’n darparu cwrs a bennir yn gwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;
(d)Colofn 4 yn pennu lleoliad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs;
(e)Colofn 5 yn pennu uchafswm y benthyciad sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2, 3 a 4.
(3) Y categorïau o fyfyrwyr a nodir yng Ngholofn 2 yw—
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig nad yw’n dod o fewn Categori 2, 3, 4 [F1, 5 neu 6] .
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â’r flwyddyn academaidd olaf o gwrs llawnamser y mae’n ofynnol bod yn bresennol arno fel arfer am lai na 15 wythnos er mwyn ei gwblhau.
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig pan—
(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos; neu
(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan—
(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos, neu
(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos,
F2...
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.]
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Categori o fyfyriwr | Colofn 3 Math o ddarparwr cwrs | Colofn 4 Lleoliad y darparwr cwrs | Colofn 5 Uchafswm y benthyciad |
---|---|---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | 1 | Darparwr arferol | Cymru | £9,000: cwrs llawnamser £2,625: cwrs rhan-amser |
Mannau eraill yn y DU | £9,250: cwrs llawnamser £6,935:cwrs rhan-amser | |||
Sefydliad preifat | Cymru | £6,165: cwrs llawnamser £2,625 :cwrs rhan-amser | ||
Mannau eraill yn y DU | £6,165: cwrs llawnamser £4,625: cwrs rhan-amser | |||
2 | Darparwr arferol | Cymru | £4,500 | |
Mannau eraill yn y DU | £4,625 | |||
Sefydliad preifat | Cymru a Mannau eraill yn y DU | £3,080 | ||
3 | Darparwr arferol | Cymru | £1,800 | |
Lloegr | £1,850 | |||
Yr Alban a Gogledd Iwerddon | £4,625 | |||
Sefydliad preifat | Cymru a Lloegr | £1,230 | ||
Yr Alban a Gogledd Iwerddon | £3,080 | |||
4 | Darparwr arferol | Cymru | £1,350 | |
Lloegr F4... | £1,385 | |||
[F5Yr Alban a] Gogledd Iwerddon | £4,625 | |||
Sefydliad preifat | [F6Cymru a Lloegr] | £920 | ||
[F7Yr Alban a Gogledd Iwerddon] | £3,080 | |||
5 | Darparwr arferol | Cymru a Mannau eraill yn y DU | [F8£5,785] | |
[F9Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | 6 | Darparwr arferol | Cymru | £1,350 |
Lloegr a’r Alban | £1,385] |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 40(3) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 40(3) wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 40(3) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(a)(iii)
F4Geiriau yn rhl. 40(3) Table 2 wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(b)(i)
F5Geiriau yn rhl. 40(3) Table 2 wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(b)(ii)
F6Geiriau yn rhl. 40 Tabl 2 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 19(a)
F7Geiriau yn rhl. 40 Tabl 2 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 19(b)
F8Sum yn Rhl. 40(3) Table 2 wedi ei amnewid (8.3.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(2), 45
F9Geiriau yn rhl. 40(3) Table 2 wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 8(b)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 40 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: