RHAN 6BENTHYCIADAU AT FFIOEDD DYSGU

Swm benthyciad at ffioedd dysguI140

1

Ni chaiff swm benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, neu

b

uchafswm y benthyciad.

2

Cyfrifir uchafswm y benthyciad yn unol â Thabl 2 pan fo—

a

Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn daladwy mewn perthynas â hi;

b

Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn gymwys iddo (gweler paragraff (3));

c

Colofn 3 yn pennu’r math o ddarparwr cwrs, pan—

i

ystyr “darparwr arferol” yw darparwr sy’n dod o fewn Amod 4 o reoliad 6(1);

ii

ystyr “sefydliad preifat” yw sefydliad, nad yw’n sefydliad addysgol cydnabyddedig, sy’n darparu cwrs a bennir yn gwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;

d

Colofn 4 yn pennu lleoliad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs;

e

Colofn 5 yn pennu uchafswm y benthyciad sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2, 3 a 4.

3

Y categorïau o fyfyrwyr a nodir yng Ngholofn 2 yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig nad yw’n dod o fewn Categori 2, 3, 4 F1, 5 neu 6 .

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â’r flwyddyn academaidd olaf o gwrs llawnamser y mae’n ofynnol bod yn bresennol arno fel arfer am lai na 15 wythnos er mwyn ei gwblhau.

Categori 3

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig pan—

a

bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos; neu

b

bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

Categori 4

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan—

a

bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos, neu

b

bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos,

F2...

Categori 5

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.

F3Categori 6

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Tabl 2

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Categori o fyfyriwr

Colofn 3

Math o ddarparwr cwrs

Colofn 4

Lleoliad y darparwr cwrs

Colofn 5

Uchafswm y benthyciad

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi

2018

1

Darparwr arferol

Cymru

£9,000: cwrs llawnamser

£2,625: cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£9,250: cwrs llawnamser

£6,935:cwrs rhan-amser

Sefydliad preifat

Cymru

£6,165: cwrs llawnamser

£2,625 :cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£6,165: cwrs llawnamser

£4,625: cwrs rhan-amser

2

Darparwr arferol

Cymru

£4,500

Mannau eraill yn y DU

£4,625

Sefydliad preifat

Cymru a Mannau eraill yn y DU

£3,080

3

Darparwr arferol

Cymru

£1,800

Lloegr

£1,850

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£4,625

Sefydliad preifat

Cymru a Lloegr

£1,230

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£3,080

4

Darparwr arferol

Cymru

£1,350

Lloegr F6...

£1,385

F5Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£4,625

Sefydliad preifat

F8Cymru a Lloegr

£920

F9Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£3,080

5

Darparwr arferol

Cymru a Mannau eraill yn y DU

F7£5,785

F4Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

6

Darparwr arferol

Cymru

£1,350

Lloegr a’r Alban

£1,385