xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CY GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH

PENNOD 1LL+CAMODAU CYMHWYSO

Amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaethLL+C

44.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol a grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod y myfyriwr cymwys yn dod o fewn un o’r eithriadau a ganlyn—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam.

Eithriad 5

[F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddi).

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i flwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod os yw’r myfyriwr cymwys, fel rhan o’r cwrs, yn ymgymryd ag—

(a)cyfnod o brofiad gwaith gyda chorff yn y Deyrnas Unedig a bennir ym mharagraff (3), neu

(b)ymchwil di-dâl—

(i)mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu

(ii)y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o’r cwrs.

(3Y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) yw—

(a)ysbyty;

(b)labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus;

(c)awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol sy’n arfer swyddogaeth neu’n cyflawni gweithgareddau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les;

(d)corff sy’n darparu gwasanaethau carchar neu wasanaethau prawf yn y Deyrnas Unedig;

(e)corff iechyd a restrir ym mharagraff (4).

(4Y cyrff iechyd yw—

(a)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) neu adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2);

(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(c)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(d)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(e)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);

(f)y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(4);

(g)yr Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 12 o’r Ddeddf honno;

(h)ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol (a enwyd gynt yn ymddiriedolaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(5);

(i)asiantaeth iechyd a gofal cymdeithasol arbennig (a enwyd gynt yn asiantaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol arbennig) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) (Gogledd Iwerddon) 1990(6);

(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno(7);

(k)y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012(8);

(l)y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 44 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 7

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 44 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(7)

2006 p. 41; mewnosodwyd adran 1H ac adran 11 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.