xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
46.—(1) Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
(2) Pan—
(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu
(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
(3) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—
(a)£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;
(b)£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;
(c)£5.750 o incwm aelwyd pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.
(4) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamser | Colofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £5,885 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £9,124 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £7,100 |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 46 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)