Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 8LL+CBENTHYCIAD CYNHALIAETH

Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr llawnamserLL+C

55.—(1Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46.

(2Mae Tabl 7 yn nodi uchafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael mewn cysylltiad â myfyriwr llawnamser pan—

(a)bo Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r benthyciad cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 4 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)bo Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae’r uchafsymiau yng Ngholofn 4 yn gymwys iddo;

(c)bo Colofn 3 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(d)bo Colofn 4 yn pennu uchafswm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2 a 3.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, y categorïau o fyfyriwr yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—

(a)blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, neu

(b)blwyddyn gyntaf o gwrs mynediad graddedig carlam

nad yw’n fyfyriwr Categori 2.

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—

(a)blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(i)bwrsari gofal iechyd, neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu

(b)blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

(4Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 56.

Tabl 7

[F1Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Blwyddyn academaiddCategori o fyfyriwrLleoliad y myfyriwrUchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Categori 1Byw gartref£6,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,000
Categori 2Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Categori 1Byw gartref£6,840
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,225
Categori 2Byw gartref£3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Categori 1Byw gartref£7,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,810
Categori 2Byw gartref£3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Categori 1Byw gartref£7,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,350
Categori 2Byw gartref£3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,675]

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 55 Amnewidiwyd Tabl 7 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 27

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 55 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)