Swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy: myfyrwyr llawnamser y mae taliad cymorth arbennig yn daladwy iddynt
56.—(1) — Pan fo taliad cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr llawnamser o dan reoliad 50, swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw pa un bynnag yw’r mwyaf o—
(a)y swm a gyfrifir o dan reoliad 55(1), neu
(b)isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
(2) Yn Nhabl 8—
(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)mae Colofn 3 yn pennu isafswm y benthyciad sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Tabl 8
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr llawnamser pan fo cymorth arbennig yn daladwy |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £3,325 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 |