RHAN 8BENTHYCIAD CYNHALIAETH

Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr rhan-amserI158

1

Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.

2

Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.

Tabl 10

F2Colofn 1

Colofn 2

Blwyddyn academaidd

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019

£5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020

£5,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021

£6,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021

£6,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

F13

Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.