RHAN 8LL+CBENTHYCIAD CYNHALIAETH

Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr rhan-amserLL+C

58.—(1Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.

(2Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.

Tabl 10

[F1Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddUchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019£5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020£5,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£6,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£6,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio]

[F2(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.]

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 58 Amnewidiwyd Tabl 10 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 30

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 58 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)