[F1Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennigLL+C
58A.—(1) Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Cam 1
Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.
Cam 2
Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.
Tabl 10A
[F2Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Blwyddyn academaidd | Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 | £6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 | £6,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 | £7,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 | £7,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio] |
Cam 3
Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.
Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 58A wedi ei fewnosod (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 6
F2Rhl. 58A Amnewidiwyd Tabl 10A (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 31