RHAN 8BENTHYCIAD CYNHALIAETH

F1Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig58A

1

Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

2

Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.

Tabl 10A

F2Colofn 1

Colofn 2

Blwyddyn academaidd

Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019

£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020

£6,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021

£7,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021

£7,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Cam 3

Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

3

Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.