RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL
PENNOD 1CYRSIAU DYNODEDIG
Cyrsiau dynodedig – amodauI16
1
Yr amodau yw—
Amod 1
Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—
a
cwrs gradd gyntaf;
b
cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;
c
cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—
i
y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu
ii
Awdurdod Cymwysterau’r Alban;
d
cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch;
e
cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
f
cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;
g
cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—
i
arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
ii
arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (c),
cyhyd ag nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs;
h
cwrs—
i
sy’n darparu addysg (pa un a yw i baratoi at arholiad ai peidio) y mae ei safon yn uwch na safon cwrs a grybwyllir ym mharagraff (g) ond nad yw’n uwch na safon cwrs gradd gyntaf, a
ii
nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad iddo.
Amod 2
Mae’r cwrs naill ai’n—
a
cwrs llawnamser,
b
cwrs rhyngosod, neu’n
c
cwrs rhan-amser.
Amod 3
Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.
F1Amod 4
a
Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu—
i
gan sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, darparwr Seisnig gwarchodedig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
ii
gan elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
iii
ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.
b
Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
c
Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
i
sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, sefydliad rheoleiddiedig Seisnig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
ii
elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
iii
sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.
d
Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
i
sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu
ii
sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.
Amod 5
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
Amod 6
Mae’r cwrs yn arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 19885 oni bai bod y cwrs yn dod o fewn paragraff (c) neu (e) o Amod 1.
2
At ddibenion Amod 4—
a
mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
b
bernir bod prifysgol, ac unrhyw goleg cyfansoddol mewn prifysgol, neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg mewn prifysgol, yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu’r sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;
F3c
ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru neu sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus dim ond oherwydd—
i
pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu
ii
pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.
F22A
At ddiben paragraff (2)—
a
ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, a
b
ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
3
Yn y rheoliad hwn, os yw paragraff (4) yn gymwys i gwrs, ystyrir ei fod yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) hyd yn oed os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd neu gymhwyster arall cyn y radd (neu’r cymhwyster cyfatebol) (pa un a yw rhan o’r cwrs yn opsiynol ai peidio).
4
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gwrs—
a
nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf, a
b
sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.