6.—(1) Yr amodau yw—
Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—
(a)cwrs gradd gyntaf;
(b)cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;
(c)cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—
(i)y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu
(ii)Awdurdod Cymwysterau’r Alban;
(d)cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch;
(e)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(f)cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;
(g)cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—
(i)arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(ii)arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (c),
cyhyd ag nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs;
(h)cwrs—
(i)sy’n darparu addysg (pa un a yw i baratoi at arholiad ai peidio) y mae ei safon yn uwch na safon cwrs a grybwyllir ym mharagraff (g) ond nad yw’n uwch na safon cwrs gradd gyntaf, a
(ii)nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad iddo.
Mae’r cwrs naill ai’n—
(a)cwrs llawnamser,
(b)cwrs rhyngosod, neu’n
(c)cwrs rhan-amser.
Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.
(a) Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu—
(i)gan sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, darparwr Seisnig gwarchodedig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
(ii)gan elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
(iii)ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.
(b)Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
(c)Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
(i)sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, sefydliad rheoleiddiedig Seisnig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
(ii)elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
(iii)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.
(d)Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
(i)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu
(ii)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.]
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r cwrs yn arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) oni bai bod y cwrs yn dod o fewn paragraff (c) neu (e) o Amod 1.
(2) At ddibenion Amod 4—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)bernir bod prifysgol, ac unrhyw goleg cyfansoddol mewn prifysgol, neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg mewn prifysgol, yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu’r sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;
[F2(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru neu sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus dim ond oherwydd—
(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu
(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.]
[F3(2A) At ddiben paragraff (2)—
(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, a
(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.]
(3) Yn y rheoliad hwn, os yw paragraff (4) yn gymwys i gwrs, ystyrir ei fod yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) hyd yn oed os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd neu gymhwyster arall cyn y radd (neu’r cymhwyster cyfatebol) (pa un a yw rhan o’r cwrs yn opsiynol ai peidio).
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gwrs—
(a)nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf, a
(b)sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 42(a)
F2Rhl. 6(2)(c) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 42(b)
F3Rhl. 6(2A) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 42(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.