RHAN 9GRANT MYFYRIWR ANABL

Amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anablI162

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

a

os oes gan y myfyriwr anabledd, a

b

os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).

2

Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

a

bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

b

bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

a

bwrsari gofal iechyd, neu

b

lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

a

na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

b

na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).