RHAN 10GRANTIAU AT DEITHIO

Grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramorI166

1

Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser.

Amod 2

Am o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, mewn—

a

sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis), neu

b

lleoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus,

(cyfeirir at bresenoldeb o’r fath yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad” ac at chwarter o’r fath fel “chwarter cymhwysol”).

Amod 3

Mae’r myfyriwr yn mynd i—

a

costau teithio, neu

b

unrhyw wariant a grybwyllir ym mharagraff (3),

at ddiben y lleoliad.

2

Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

(XY)+Zmath

Pan—

  • X yw swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at ddibenion y lleoliad;

  • Y yw—

    1. a

      £303 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn F1llai na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw, neu

    2. b

      £1,000 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn F2£59,200 neu ragor mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno;

  • Z yw swm cyfanredol unrhyw wariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).

  • Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy (ac os yw’r canlyniad yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, nid yw grant at deithio yn daladwy).

3

Y gwariant a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yw—

a

gwariant y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae’n ei ddal neu’n ei ddioddef yn ystod y lleoliad;

b

cost unrhyw fisa y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ei chael er mwyn bod yn bresennol yn y lleoliad;

c

costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr fynd iddynt er mwyn cyflawni amod mandadol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r lleoliad.