RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION
PENNOD 1CYFLWYNIAD
Amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion69.
(1)
Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw grant penodol ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—
(a)
os yw’r myfyriwr yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y grant hwnnw,
(b)
os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2), ac
(c)
os yw cwrs presennol y myfyriwr yn gwrs rhan-amser, os yw’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn 50% o leiaf.
(2)
Yr eithriadau yw—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)
bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)
bod y myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
F1Eithriad 2
Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.
Eithriad 3
Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)
bwrsari gofal iechyd, neu
(b)
lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell.
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
Eithriad 7
Mae’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef—
(a)
yn fyfyriwr cymwys, a
(b)
yn cael dyfarndal statudol.