RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 1CYRSIAU DYNODEDIG

Cyrsiau dynodedig – eithriadauI17

1

Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Cwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

Eithriad 2

Cwrs sy’n dod o fewn paragraff (g) neu (h) o Amod 1 o reoliad 6(1) os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i’r cwrs gael ei ddarparu i un o ddisgyblion yr ysgol.

2

At ddibenion Eithriad 1, ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” yw—

a

cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 20047 neu o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 20128, sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

b

cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.

3

At ddibenion Eithriad 2, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

a

ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol,

b

ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, neu

c

ysgol feithrin a gynhelir.