71.—(1) Dim ond mewn cysylltiad ag un o’r personau a ganlyn—
(a)partner y myfyriwr,
(b)oedolyn dibynnol y myfyriwr,
y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol.
(2) Ond nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol os yw un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol (“O”)—
(a)mae incwm net O ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn fwy na £3,923, neu
(b)mae O yn—
(i)priod neu bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae partner y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho), neu
(ii)cyn-bartner i bartner y myfyriwr cymwys.
Eithriad 2
Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad â phartner y myfyriwr “(P)”—
(a)mae’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu oddi wrth P, neu
(b)mae P yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nid yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 71 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)