Uchafswm y grant oedolion dibynnolLL+C
72.—(1) Yn Nhabl 11, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
(2) Ond pan fo’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae swm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy yn swm, nad yw’n fwy na’r uchafswm, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
Tabl 11
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y grant oedolion dibynnol |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £2,732 |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 72 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)