RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION

PENNOD 4GRANT GOFAL PLANT

Grant gofal plantI175

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant mewn cysylltiad â ffioedd gofal plant rhagnodedig yr eir iddynt ar gyfer plentyn dibynnol yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol os yw un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

Amod 1

Mae’r plentyn dibynnol o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.

Amod 2

Mae gan y plentyn dibynnol anghenion addysgol arbennig o fewn ystyr “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 199636 ac mae o dan 17 oed yn union cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.

2

Ond nid yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn—

Achos 1

Mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200237.

Achos 2

Mae gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm mewn cysylltiad â chostau gofal plant o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)38.

Achos 3

Mae partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

Achos 4

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig ar gyfer cyfnod y mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys mewn cysylltiad ag ef o fewn yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf Taliadau Gofal Plant 201439.

Achos 5

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig wedi eu talu neu i’w talu gan y myfyriwr cymwys i bartner y myfyriwr.

Achos 6

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

3

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 76—

  • ystyr “ffioedd gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw ffioedd gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 200240;

  • mae “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yn cynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd.