76.—(1) Swm y grant gofal plant sy’n daladwy yw 85% o ffioedd gofal plant rhagnodedig wythnosol y myfyriwr cymwys, hyd at yr uchafswm wythnosol—
(a)a bennir yn Nhabl 13, neu
(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, a bennir yn y paragraff hwnnw.
(2) Yn Nhabl 13—
(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm wythnosol y grant gofal plant yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)mae Colofn 2 yn pennu nifer y plant dibynnol y mae’r symiau a bennir yng Ngholofn 3 yn ymwneud â hwy;
(c)mae Colofn 3 yn pennu uchafswm wythnosol y grant gofal plant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2, pan fo’r cais am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant.
(3) Pan fo gan y myfyriwr cymwys fwy nag un plentyn dibynnol, y swm a bennir yn y cofnod priodol yng Ngholofn 3 yw’r uchafswm wythnosol sy’n daladwy, ni waeth faint o blant sy’n cael gofal plant.
(4) Pan na fo cais y myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi’r darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu—
(a)ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85% o’r ffioedd gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm wythnosol o [F4£134.70;]
(b)ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.
(5) At ddibenion cyfrifo swm grant gofal plant, mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.
(6) Os eir i ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag wythnos sy’n dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn cysylltiad â hi ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir yr uchafswm wythnosol drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—
Pan—
A yw’r uchafswm wythnosol sy’n gymwys, a
B yw nifer y diwrnodau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 76 Tabl 13 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 28(a)(i)
F2Swm yn Rhl. 76 Tabl 13 wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 28(a)(ii)(aa)
F3Swm yn Rhl. 76 Tabl 13 wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 28(a)(ii)(bb)
F4Swm yn Rhl. 76(4)(a) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 28(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 76 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)