- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
77.—(1) Cyfrifir swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Cam 1
Cyfrifo swm cyfanredol—
(a)incwm aelwyd y myfyriwr cymwys a gyfrifir o dan Ran 2 o Atodlen 3,
(b)os nad yw eisoes wedi cael ei ystyried fel rhan o incwm aelwyd y myfyriwr cymwys, incwm gweddilliol oedolyn dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Bennod 2 o Ran 4 o Atodlen 3, ac
(c)incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Ran 5 o Atodlen 3.
Cam 2
Didynnu’r symiau a ganlyn o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1—
(a)£6,159, pan na fo gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol;
(b)£8,473, pan na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(c)£9,632, pan—
(i)na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol, a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol, neu
(ii)bo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(d)£10,797, pan fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
Y canlyniad yw’r cyfanswm net.
Cam 3
Adio at ei gilydd uchafswm pob grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael.
Y canlyniad yw’r uchafsymiau cyfanredol.
Cam 4
(a)Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, y swm sy’n daladwy yw—
(i)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3;
(ii)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 wedi eu gostwng yn unol â pharagraff (2).
(b)Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn hafal i’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 neu’n fwy na hwy, y swm sy’n daladwy yw dim.
(c)Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn swm positif sy’n llai na’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3, didynnu’r cyfanswm net o’r uchafsymiau cyfanredol er mwyn gostwng swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yn y drefn a ganlyn hyd nes bod y cyfanswm net wedi ei ddihysbyddu—
(i)yn gyntaf, didynnu uchafswm y grant oedolion dibynnol y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael;
(ii)wedyn, didynnu uchafswm y grant gofal plant y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael;
(iii)yn olaf, didynnu uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael.
(d)Pan fo is-baragraff (c) o’r Cam hwn yn gymwys, y swm sy’n weddill ar ôl y gostyngiad hwnnw yw—
(i)y swm sy’n daladwy pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser;
(ii)y swm sydd i gael ei ostwng yn unol â pharagraff (2) pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser.
(2) Os yw cwrs presennol y myfyrwyr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—
(a)50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;
(b)60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;
(c)75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.
(3) Pan fo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2), yn swm y grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n fwy na £0.01 ond yn llai na £50, y swm sy’n daladwy yw £50.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 78 a 79.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: