RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION

PENNOD 5SWM Y GRANT AR GYFER DIBYNYDDION SY’N DALADWY

Grantiau ar gyfer dibynyddion: cyfrifo’r swm sy’n daladwyI177

1

Cyfrifir swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo swm cyfanredol—

a

incwm aelwyd y myfyriwr cymwys a gyfrifir o dan Ran 2 o Atodlen 3,

b

os nad yw eisoes wedi cael ei ystyried fel rhan o incwm aelwyd y myfyriwr cymwys, incwm gweddilliol oedolyn dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Bennod 2 o Ran 4 o Atodlen 3, ac

c

incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Ran 5 o Atodlen 3.

Cam 2

Didynnu’r symiau a ganlyn o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1—

a

£6,159, pan na fo gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol;

b

£8,473, pan na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

c

£9,632, pan—

i

na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol, a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol, neu

ii

bo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

d

£10,797, pan fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

Y canlyniad yw’r cyfanswm net.

Cam 3

Adio at ei gilydd uchafswm pob grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael.

Y canlyniad yw’r uchafsymiau cyfanredol.

Cam 4

a

Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, y swm sy’n daladwy yw—

i

pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3;

ii

pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 wedi eu gostwng yn unol â pharagraff (2).

b

Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn hafal i’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 neu’n fwy na hwy, y swm sy’n daladwy yw dim.

c

Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn swm positif sy’n llai na’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3, didynnu’r cyfanswm net o’r uchafsymiau cyfanredol er mwyn gostwng swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yn y drefn a ganlyn hyd nes bod y cyfanswm net wedi ei ddihysbyddu—

i

yn gyntaf, didynnu uchafswm y grant oedolion dibynnol y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael;

ii

wedyn, didynnu uchafswm y grant gofal plant y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael;

iii

yn olaf, didynnu uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael.

d

Pan fo is-baragraff (c) o’r Cam hwn yn gymwys, y swm sy’n weddill ar ôl y gostyngiad hwnnw yw—

i

y swm sy’n daladwy pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser;

ii

y swm sydd i gael ei ostwng yn unol â pharagraff (2) pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser.

2

Os yw cwrs presennol y myfyrwyr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

a

50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

b

60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

c

75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.

3

Pan fo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2), yn swm y grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n fwy na £0.01 ond yn llai na £50, y swm sy’n daladwy yw £50.

4

Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 78 a 79.