RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION
PENNOD 5SWM Y GRANT AR GYFER DIBYNYDDION SY’N DALADWY
Swm y grant oedolion dibynnol a’r grant gofal plant: pan fo partner y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys78.
Pan, o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) o reoliad 77 neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw, fo swm grant oedolion dibynnol a grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys, mae’r swm hwnnw wedi ei ostwng un hanner pan fo—
(a)
partner y myfyriwr cymwys—
(i)
yn fyfyriwr cymwys, neu
(ii)
wedi cael dyfarndal statudol, a
(b)
swm y cymorth sy’n daladwy i’r partner—
(i)
yn rhinwedd bod y partner yn fyfyriwr cymwys, neu
(ii)
o dan y dyfarndal statudol
yn ystyried dibynyddion y partner.