Newidiadau mewn amgylchiadauLL+C
79.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)mae nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
(b)mae’r myfyriwr yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;
(c)mae’r myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 81(3).
(2) At ddibenion penderfynu a yw grant oedolion dibynnol neu grant dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy a’r swm sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol—
(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i’w drin fel pe baent ganddo;
(b)a yw’r myfyriwr i’w drin fel rhiant unigol.
(3) Cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd yw—
(a)swm cyfanredol y grant oedolion dibynnol a’r grant dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir mewn cysylltiad â phob chwarter perthnasol o dan y rheoliad hwn, plws
(b)swm unrhyw grant gofal plant sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd.
(4) Mae swm y grant oedolion dibynnol a’r grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant hwnnw a fyddai’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd fel y’i penderfynir o dan reoliad 77 pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol wedi aros yr un peth drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfan.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” yw—
(a)yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c), chwarter sy’n dechrau yn union ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd;
(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 79 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)