Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Dynodi cyrsiau eraillLL+C

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y dynodiad(1).

(2Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ymarferwyr/gwybodaeth-polisi/cyrsiau-dynodedig.aspx i gael rhestr o gyrsiau dynodedig sydd wedi eu pennu, wedi eu hatal dros dro neu wedi eu dirymu gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn.