Dynodi cyrsiau eraill
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y dynodiad(1).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan baragraff (1).
(1)
Gweler http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ymarferwyr/gwybodaeth-polisi/cyrsiau-dynodedig.aspx i gael rhestr o gyrsiau dynodedig sydd wedi eu pennu, wedi eu hatal dros dro neu wedi eu dirymu gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn.