RHAN 12CYMHWYSO I GAEL CYMORTH YN YSTOD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD

Cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaiddI180

1

Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

2

Y digwyddiadau yw—

a

bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;

b

bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—

F6i

bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

F2ia

bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

ii

bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

iii

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE F4neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teuluac eithrio fel aelod o’r teulu;

F5iv

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;

v

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

vi

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

vii

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

3

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

  • “aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2);

  • “ffoadur” (“refugee”);

  • “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

  • “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

  • F3“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);

  • “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

  • F1“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)

  • “plentyn” (“child”);

  • F7“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);

  • “rhiant” (“parent”).